Ian Virgo
Arwyn

Ian Virgo.jpg

Actor o Gymru sy'n byw yn Llundain yw Ian. Fe hyfforddodd yn yr Academi Gerdd Frenhinol a'r Theatr Gerdd Ieuenctid Genedlaethol.

 

Mae peth o waith ffilm Ian yn cynnwys Black Hawk Down, Rise of the Foot Soldier 1 a 3, Second in Command, The Lighthouse, The Beat Beneath my Feet, Essex Boys Retribution, The Raven, Clubbed, Rolling with the Nines, Extreme Dating, The Bastard Executioner. Mae Ian newydd orffen ffilmio prif ran yn Weapon ac yn y ffilmiau nodwedd Before the Fall a Tau. Mae ei waith teledu yn cynnwys Spooks, EastEnders, The Bill, Holby City, Casualty, Trinity, Crash a Doctors. Mae ei waith ar lwyfan yn cynnwys Grease, Jesus Christ Superstar, My Fair Lady, Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat, The King and I, Kissing Dance. Yn ddiweddar ymddangosodd yn The Trial of Jane Fonda, ochr yn ochr ag actores a enwebwyd am Oscar, sef Anne Archer.