Kayed Mohamed Mason
Dju Dju / Ensemble

Kayed Mohamed Mason.jpg

Ar ôl hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Kayed wedi ymddangos yn y cyfresi teledu Stella a Followers.

Mae ei waith theatr yn cynnwys Der Rosenkavalier gydag Opera Cenedlaethol Cymru, Dirty, Gifted and Welsh a Mametz gyda National Theatre Wales a The Last Mermaid yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac mae Kayed wrth ei fodd yn cael dychwelyd i lwyfan y Ganolfan fel aelod o ensemble Sioe Gerdd Tiger Bay.

"Dw i'n dod o deulu sydd wedi creu bywoliaeth iddyn nhw eu hunain yma ers cenedlaethau, felly mae cael bod yn rhan o sioe sydd nid yn unig yn dangos y bywydau hynny, ond yn eu dathlu, yn rhywbeth rydw i'n ddiolchgar amdano ac rwy'n falch o gael bod yn rhan ohoni."