Liz May Brice
Leonora Piper

Liz May Brice.jpg

Mae Liz yn gyfarwydd iawn â Bae Caerdydd, er mai ffrwydro’r lle wnaeth hi ddiwethaf wrth chwarae cymeriad Johnson yn Torchwood: Children of Earth.

"Fe dreuliais i dair noson yn sefyll ar ben ceudwll mawr ffug yn llawn rwbel y tu allan i Ganolfan Mileniwm Cymru wrth ffilmio, ac fe fyddwn i'n aml yn meddwl mor hyfryd roedd yr adeilad yn edrych. Mae mor braf cael gweithio y tu MEWN i'r adeilad y tro yma."

Yn ogystal â Torchwood, mae Liz yn wyneb cyfarwydd yn sgil ei gwaith teledu mewn rhaglenni cwlt eraill fel Bad Girls, Peep Show, Dead Set a Black Mirror, yn ogystal â ffilm wreiddiol Resident Evil.