Daniel Graham
Dai / Andreas / Ensemble

Daniel Graham.jpg

Ag yntau wedi hyfforddi'n lleol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, mae Daniel yn gyfarwydd iawn â llwyfannau Cymru, ar ôl ymddangos yn: Mametz (National Theatre Wales) A Portrait of the Artist as a Young Dog a Sky Hawk (Theatr Clwyd) a Peter Pan (Theatr y Sherman).

Yn ogystal, fe ffilmiodd bennod o'r gyfres deledu o Gymru, Stella, ar gyfer Sky 1.

Ar ôl ymddangosiadau cerddorol yn Sweeney Todd (Theatr yr Ŵyl Chichester a Theatr Adelphi – y West End) a How To Succeed In Business Without Really Trying (Neuadd Gerddoriaeth Wilton's) mae Daniel yn falch iawn o fod yn ôl yng Nghymru i chwarae rhan un o ddynion yr injan fach yn Sioe Gerdd Tiger Bay.

Mae'n Gymro balch ac yn llawn cyffro am gael bod yn rhan o Sioe Gerdd newydd sbon sy'n dathlu ac yn cynrychioli amlddiwylliannedd a phwysigrwydd Caerdydd!