Lee Dillon-Stuart
Gavin / Bogdan / Ensemble

Lee Dillon Stuart.jpg

Ganed Lee yn Glasgow a dechreuodd ei hyfforddiant yn Ysgol Ddawns yr Alban lle cafodd ysgoloriaeth lawn i barhau â'i hyfforddiant yn Academi Celfyddydau'r Theatr Mountview.

Mae Lee wedi serennu mewn sawl sioe yng Ngŵyl Pitlochry, wedi perfformio yn ensemble Oliver! ar daith gwledydd Prydain 2011/13, ac fe wnaeth ei ymddangosiad cyntaf ar y West End yn Les Misérables (Theatr y Frenhines). Wedi hynny, helpodd i roi cychwyn ar ran Peter Arthurs yn y première byd-eang o'r sioe gerdd newydd The White Feather (Theatr yr Undeb).

Yn gynharach eleni, serennodd Lee fel Tennessee yn Yank!, ac ar ôl cyfnod lle gwerthwyd pob tocyn yn Theatr Hope Mill, trosglwyddodd y sioe lwyddiannus i Theatr Charing Cross yn Llundain. Mae gwaith teledu Lee yn cynnwys Paul yn Dear Green Place ar gyfer BBC yr Alban.