Daf James
Cerddoriaeth

Yn awdur, cyfansoddwr a pherfformiwr llwyddiannus, mae Daf James wedi creu sgôr wreiddiol a bywiog ar gyfer Tiger Bay the Musical.

Mae'n gweithio yn y theatr, ar y radio a'r teledu.  Mae ei waith wedi cael ei berfformio ledled y DU ac yn rhyngwladol gyda chyfres o gredydau trawiadol, gan gynnwys My Mother Taught Me How To Sing ar gyfer Radio 4, City of the Unexpected ar gyfer dathliadau Canmlwyddiant Roald Dahl a My Name is Sue, a gafodd wobr Total Theatre. Ar hyn o bryd, mae Daf wrthi'n gweithio ar gyfres ddrama wreiddiol o'r enw Beast ar gyfer Channel 4/Scott Free a The Diana Chronicles, drama ar gyfer Sherman Cymru, Clwyd Theatr Cymru a'r Royal Court.
 

Mae creu sgôr am y stori ddiamheuol Gymreig yma ar gyfer llwyfan rhyngwladol, mewn cydweithrediad â thîm mor fedrus, yn brofiad diymhongar a gwefreiddiol.
Richard Hughes