David Mahoney
Goruchwyliwr Cerdd a Chyfarwyddwr Cerddorol

Ar ôl graddio mewn cerddoriaeth o Brifysgol Rhydychen, mae David Mahoney wedi mwynhau llwyddiant mawr gyda grŵp llwyddiannus Only Men Aloud, sydd wedi ennill Gwobr Classical Brit, gan gynnwys perfformiadau yn Seremoni Agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012 a'r Royal Variety Performance.

Cynhyrchodd David Wobrau BAFTA Cymru 2015 a 2016, bu'n oruchwyliwr cerdd ar gyfer dathliadau Canmlwyddiant Roald Dahl ac ef yw cyfarwyddwr artistig Gŵyl Gerddoriaeth Caerdydd.

Yn gyfarwydd iawn â Chanolfan Mileniwm Cymru, arweiniodd David Gerddorfa Novello ar gyfer cynhyrchiad Dengmlwyddiant y Ganolfan, Broadway to the Bay.

Gyda chyfoeth o brofiad ar y llwyfan ac oddi arno, bydd cyfarwyddyd David i sain Tiger Bay the Musical yn amhrisiadwy i gynhyrchiad mwyaf arwyddocaol Canolfan Mileniwm Cymru hyd yn hyn.
 

Richard Hughes