Greg Pink
Cynllunydd Sain Cyswllt

Mae Greg Pink yn ymuno â Tiger Bay the Musical gyda 30 mlynedd o brofiad yn y diwydiant theatr.  Mae Greg yn arbenigo mewn theatr gerdd ar raddfa fawr a chynyrchiadau arena ac mae wedi teithio mewn sioeau ledled y byd.

Yn flaenorol mae Greg wedi cynllunio'r sain ar gyfer cynyrchiadau enfawr gan gynnwys Sister Act, Cats, A Christmas Carol a Singin' in the Rain.  Yn ogystal â'i waith cynllunio helaeth, bu Greg yn oruchwyliwr sain ar gyfer teithiau Doctor Dolittle  a The Lion King, ac yn beiriannydd sain ar gyfer nifer o sioeau, gan gynnwys taith fyd-eang Mamma Mia! 
 

Richard Hughes