Jeff Howard
Trefnydd Cerddorfa

Yn enedigol o Gaerdydd, bydd Jeff Howard yn creu trefniadau cerddorfaol newydd sgôr gwreiddiol Daf James ar gyfer y stori hon am orffennol ei dref enedigol. 

Mae Jeff yn organydd, pianydd, canwr, hyfforddwr ac arweinydd.  Mae wedi perfformio ledled y DU ac Ewrop, yn gweithio gyda cherddorfeydd gan gynnwys y Royal Philharmonic.

Mae Jeff yn darparu trefniadau ar gyfer Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC, S4C ac amrywiaeth o artistiaid unigol.
 

Richard Hughes