Joshua Carr
Cynllunydd Goleuo

Mae Joshua Carr yn Gynllunydd Golau profiadol yn gweithio mewn amrywiaeth eang o berfformiadau; o theatr i ddigwyddiadau byw a cherddoriaeth.
 
Ers graddio o RADA yn 2010 mae wedi gweithio ar gynyrchiadau mewn amrywiaeth o theatrau yn Llundain gan gynnwys y Royal Court, Tricycle, Hampstead, Regent's Park, Arcola, Park Theatre, BAC a Theatr St James.
 
Mae rhai o gynyrchiadau mwyaf diweddar Joshua yn cynnwys Romeo and Juliet yn y West Yorkshire Playhouse; Everybody’s Talking About Jamie yn Sheffield Crucible; Sleeping Beauty yn y Watermill a'r cynhyrchiad llwyddiannus o Hangmen yn y Royal Court a drosglwyddodd i'r West End yn dilyn hynny.

Yn ogystal â'i waith cynllunio golau, mae Joshua hefyd yn cydberchen Otherplace Productions - y gweithredwr mwyaf yng Ngŵyl Ymylol Brighton, sy'n adnabyddus am safle'r ŵyl "The Warren".
 

Richard Hughes