Melly Still
Cyfarwyddwr

Mae Melly Still wedi gweithio fel cyfarwyddwr, coreograffydd, dylunydd ac addasydd ar gyfer nifer o gwmnïau gan gynnwys Theatr Genedlaethol Prydain Fawr, y Royal Shakespeare Company a Gŵyl Opera Glyndebourne.  Mae gwaith Melly wedi teithio ledled y byd, sy'n ei gwneud yn berffaith i arwain Tiger Bay the Musical ar y llwyfan. 

Mae Melly wedi cael llwyddiant anhygoel dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys cyfarwyddo Cymbeline gan Shakespeare yn y Royal Shakespeare Company a Coram Boy yn y Theatr Genedlaethol ac ar Broadway, ei henwebu am bedair gwobr Olivier a chwe gwobr Tony gan gynnwys Cyfarwyddwr Gorau.  Yn fwyaf diweddar cyfarwyddodd y pedair nofel Neopolitanaidd epig gan Elena Ferrante, My Brilliant Friend, yn y Rose Theatre - digwyddiad pum awr llwyddiannus yng nghalendr theatr Llundain. 
 

Dylech ddisgwyl sioe ysblennydd a chaled a chyffrous sy’n tynnu ar fywydau a cholledion y bobl o Tiger Bay, gyda thipyn o ramant hefyd.
Richard Hughes