Michael Williams
Llyfr a Geiriau

Michael Williams, awdur 13 o nofelau arobryn sydd wedi'u cyhoeddi ledled y byd, sy'n ysgrifennu'r llyfr a'r geiriau ar gyfer Tiger Bay the Musical.

Yn gyfarwyddwr opera medrus, mae wedi ysgrifennu libretos ar gyfer nifer o operâu a sioeau cerdd, gan gynnwys Poet & Prophetess, The Elephant Man a Water Carriers. 
Gwnaeth Michael hefyd greu a chyfarwyddo Mandela Trilogy a aeth ar daith i Durban a Johannesburg ac a enillodd Wobr Naledi yn 2012 am y Sioe Gerdd Orau, cyn mynd ar daith ryngwladol helaeth a oedd yn cynnwys taith o'r DU ac Iwerddon.

Meddai Michael, y ganwyd ei fam yng Nghaerdydd,

Yn anad dim, rwyf wedi anrhydeddu’r sioe gerdd fel math o gelfyddyd, er bod llawer o’r hyn sydd wedi dod yn rhan o’r stori yn seiliedig ar ffaith.  Daeth ysbrydoliaeth o’r gymysgedd gymhleth o ddosbarth, hil ac amrywiaeth diwylliannol a oedd yn y lle unigryw hwn ar ddechrau’r ganrif ym Mhrydain.

Mae Michael yn addysgu cyrsiau ysgrifennu a theatr ar gyfer colegau yn UDA ac mae wedi dysgu ar long Semester at Sea fel athro theatr ar bum mordaith o amgylch y byd. Michael yw rheolwr gyfarwyddwr presennol Cape Town Opera.
 

Richard Hughes