Richard Tunley
Cyfarwyddwr Cyswllt

Cafodd Richard ei hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae wedi gweithio'n helaeth fel cyfarwyddwr, actor a choreograffydd a gyda phrofiad mor amrywiol, mae Tiger Bay the Musical mewn dwylo da.

Cyfarwyddodd Richard y perfformiad cyntaf yn Ewrop o Les Misérables: Student Edition ar gyfer Gŵyl Theatr Gerdd Ryngwladol Caerdydd a'r comedi cerddorol newydd Come Fly with Me a berfformiwyd gyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.

Mae Richard yn uchel ei barch ym maes addysg drama a sefydlodd Black RAT Productions, yn cyfarwyddo holl gynyrchiadau'r cwmni hyd yn hyn a theithio'n llwyddiannus yn genedlaethol ledled Cymru.
 

Richard Hughes