Cyhoeddi cast llawn Sioe Gerdd Tiger Bay Canolfan Mileniwm Cymru

Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn falch o gyhoeddi cast llawn Sioe Gerdd Tiger Bay, sy’n cynnwys cast o 39 gyda sawl enw nodedig o Gymru.

Mae Sioe Gerdd Tiger Bay – a grëwyd gan dîm sydd wedi ennill sawl gwobr, sef y cyfansoddwr Daf James, y sgwennwr Michael Williams a’r cyfarwyddwr Melly Still – wedi’i gosod yng nghymuned aml-ethnig liwgar Butetown yn negawd cynta’r ugeinfed ganrif. Byd o arian mawr a thlodi mawr. Gangiau o blant y stryd yn crwydro’r dociau. Mae Glo yn Frenin, ac yn nhafarndai a strydoedd cefn isfyd Caerdydd, mae chwyldro ar gerdded.

DSCF0121.jpg

Mae Sioe Gerdd Tiger Bay yn dilyn menyw ifanc a’i phenderfyniad i herio anghyfiawnderau cymdeithas, dilyn ei chalon a gwireddu ei breuddwydion.

Mae rhai o’r cast wedi’u cyhoeddi eisoes, sef John Owen Jones, Noel Sullivan, Suzanne Packer, Vikki Bebb a dwy ferch ifanc leol, sef Louise Harvey a Ruby Llewelyn. Yn ymuno â nhw bydd:

Dom Hartley-Harris, fydd yn cwblhau’r prif gast fel Themba, mewnfudwr o Affrica sy’n gweithio ar ddociau Caerdydd gyda’r bwriad o ddial cam ei deulu. Yn fwyaf diweddar bu Dom yn chwarae Jagwire yn y sioe gerdd newydd Bat Out of Hell. Mae ei waith arall yn y theatr yn cynnwys Beautiful: The Carole King Musical ac Accidental Brummie. 

Bydd Zolani Shangase (Lion King, West End ac yn fwyaf diweddar Chico yng nghynhyrchiad Theatr Fugard o West Side Story) yn teithio o Dde Affrica i chwarae rhan Yusef unwaith eto, yn dilyn rhagddangosiadau o’r Sioe Gerdd yn Cape Town yn gynharach eleni.

Hefyd yn ymuno o Cape Town bydd Busisiwe Ngejane (cynyrchiadau Ensemble Isango o Midsummer Night’s Dream, La Boheme, Carmen a Man of Good Hope) fydd yn chwarae rhan un o ferched y nos, Klondike Ellie a Luvo Rasemeni (cynyrchiadau Ensemble Isango o Midsummer Night’s Dream, La Boheme, Carmen a Man of Good Hope) fel Felize, yn ogystal ag Ernestine Stuurman fel rhan o’r ensemble.

Bydd Liz May Brice (Torchwood: Children of Earth, Bad Girls, Peep Show, Black Mirror) yn chwarae rhan y clirweledydd Leonora Piper. Bydd Ian Virgo (The Bastard Executioner, Weapon, Before The Fall, Holby City, Spooks, The Bill), Adam Vaughan (The Wind in the Willows – Palladium Llundain, Carousel, Sunset Boulevard, Sweeney Todd) a Rhidian Marc (Les Misérables yn y West End, taith Prydain a’r ffilm, Pippin, Scrooge) yn chwarae dynion yr injan fach, Bosun ac Arwyn a’r Is-Gapten/Locke yn y drefn honno.

Mae’r Ganolfan wedi troi at berfformwyr o Gymru i greu ensemble y cynhyrchiad, gan gynnwys Zoe George (taith Prydain, Iwerddon a thaith ryngwladol Wicked fel dirprwy ar gyfer Elphaba a Nessarose), Lucy Elson (dechrau ei gyrfa) ac Elin Llwyd (cyflwynydd ar S4C, Y Fenyw Ddaeth o’r Môr a Deffro’r Gwanwyn Theatr Genedlaethol Cymru) fydd yn chwarae rhan merched siop enwog David Morgan.

Yn ymuno â nhw bydd Jamal Andréas, Lee Dillon-Stuart, Kit Esuruoso, Soophia Foroughi, Daniel Graham, Carl Man, Kayed Mohamed-Mason, Cilla Silvia, Josh Tonks, Emma Warren a Stephanie Webber.

Meddai Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: “Dyma gynhyrchiad mwya’r Ganolfan hyd yma, ac rydyn ni’n falch o gael rhoi cipolwg ar hanes ein cartref i bobl a dathlu ychydig o gyfoeth a chryfder y gymuned drwy gerddoriaeth a pherfformiad.

“Er mwyn cael naws y cynhyrchiad yn iawn, roedden ni’n awyddus i gael cast amrywiol, felly rydyn ni’n falch iawn o gael cyhoeddi bod y cast llawn yn cynnwys doniau o bedwar ban byd ac o'n milltir sgwâr ni hefyd.”

Yn goron ar y cwbl, bydd deg actor ac actores o Gymru yn chwarae rhan bechgyn y dŵr.

Dyma’r criw o fechgyn y dŵr:

·         Amaree Ali, 12 oed, Grangetown

·         Amelia Jenkins, 14 oed, Pen-y-bont ar Ogwr

·         Cadi-Gwen Sandall, 10 oed, yr Eglwys Newydd

·         Efan Williams, 9 oed, Treganna

·         Lauren Price, 11 oed, Rhiwbeina

·         Lefi Jô Hughes, 10 oed, Treganna

·         Lowri Elin Hughes, 14 oed, Caerffili

·         Mallers Saltus-Hendrickson, 9 oed, Butetown

·         Mimi Nanud, 13 oed, y Barri

·         Shakira Lorenza, 12 oed, Butetown

Stori ddychmygol am ramant, dial, torcalon a gobaith yw Sioe Gerdd Tiger Bay, a bydd première byd y sioe nos Fercher 15 Tachwedd 2017 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae’r tocynnau ar werth nawr yn www.tigerbaythemusical.com

Nicola Francois-Jenkins